1. Geiriau yr Athro, mab Dafydd; brenin yn Jerwsalem.
2. Mae'n ddiystyr! – meddai'r Athro – dydy e'n gwneud dim sens!Mae'r cwbl yn hollol abswrd!
3. Beth ydy'r pwynt gwneud unrhyw beth?Beth sydd i'w ennill o weithio'n galed yn y byd yma?
4. Mae un genhedlaeth yn mynd, ac un arall yn dod,ond dydy'r byd ddim yn newid o gwbl.
5. Mae'r haul yn codi ac yn machlud,yna rhuthro'n ôl i'r un lle, i godi eto.
6. Mae'r gwynt yn chwythu i'r de,ac yna'n troi i'r gogledd.Mae'n troi ac yn troi, cyn dod yn ôli'r un lle yn y diwedd.
7. Mae'r nentydd i gyd yn llifo i'r môr,ac eto dydy'r môr byth yn llawn;maen nhw'n mynd yn ôli lifo o'r un lle eto.
8. Mae'r cwbl yn un cylch diddiwedd!Dydy hi ddim posib dweud popeth.Dydy'r llygad byth wedi gweld digon,na'r glust wedi clywed nes ei bod yn fodlon.