7. Bydd tir y glannau yn eiddoi'r bobl sydd ar ôl o Jwda;Nhw fydd yn pori ynoac yn cysgu'r nos yn nhai Ashcelon.Bydd yr ARGLWYDD eu Duw yn dod atyn nhw,a rhoi llwyddiant iddyn nhw eto.
8. “Dw i wedi clywed Moab yn gwawdioa phobl Ammon yn enllibio –gwawdio fy mhobl, a bygwth eu ffiniau.
9. Felly, mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel.“Bydd Moab fel Sodom ac Ammon fel Gomorra! –yn llawn chwyn a phyllau halen,ac yn dir diffaith am byth.Bydd y rhai sydd ar ôl o'm pobl yn dwyn eu heiddo,a'r gweddill o'm gwlad yn cymryd eu tir.”
10. Dyna fydd eu tâl am eu balchder,am wawdio a bygwth pobl yr ARGLWYDD holl-bwerus.
11. Bydd yr ARGLWYDD yn eu dychryn,a bydd holl dduwiau'r ddaear yn ddim.Yna bydd pobl pob cenedl yn addoli'r ARGLWYDDyn eu gwledydd eu hunain.
12. A chi, bobl dwyrain Affrica,bydd fy nghleddyf yn eich lladd chi.
13. Bydd yr ARGLWYDD yn taro'r gogleddac yn dinistrio Asyria.Bydd dinas Ninefe yn adfeilion;yn sych fel anialwch diffaith.
14. Bydd pob math o anifeiliaid gwylltionyn gorwedd yn ei chanol.Bydd tylluanod yn clwydo yn ei hadfeilion,ac yn hwtian yn y ffenestri.Bydd rwbel ar bob rhinioga'r waliau'n noetham fod yr holl waith coed wedi ei rwygo allan.