4. Bydd tref Gasa'n wag ac Ashcelon yn adfeilion.Bydd pobl Ashdod wedi eu gyrru i ffwrdd cyn canol dydd,a tref Ecron wedi ei bwrw i lawr.
5. Gwae chi sy'n byw ar lan y môr –bobl Philistia ddaeth o Creta.Amdanat ti Canaan, wlad y Philistiaid,mae'r ARGLWYDD wedi dweud yn dy erbyn:“Bydda i'n dy ddinistrio, a fydd neb ar ôl!”
6. Bydd yr arfordir yn dir pori –dolydd i fugeiliaid a chorlannau defaid.
7. Bydd tir y glannau yn eiddoi'r bobl sydd ar ôl o Jwda;Nhw fydd yn pori ynoac yn cysgu'r nos yn nhai Ashcelon.Bydd yr ARGLWYDD eu Duw yn dod atyn nhw,a rhoi llwyddiant iddyn nhw eto.
8. “Dw i wedi clywed Moab yn gwawdioa phobl Ammon yn enllibio –gwawdio fy mhobl, a bygwth eu ffiniau.
9. Felly, mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel.“Bydd Moab fel Sodom ac Ammon fel Gomorra! –yn llawn chwyn a phyllau halen,ac yn dir diffaith am byth.Bydd y rhai sydd ar ôl o'm pobl yn dwyn eu heiddo,a'r gweddill o'm gwlad yn cymryd eu tir.”
10. Dyna fydd eu tâl am eu balchder,am wawdio a bygwth pobl yr ARGLWYDD holl-bwerus.
11. Bydd yr ARGLWYDD yn eu dychryn,a bydd holl dduwiau'r ddaear yn ddim.Yna bydd pobl pob cenedl yn addoli'r ARGLWYDDyn eu gwledydd eu hunain.