Seffaneia 1:2-17 beibl.net 2015 (BNET)

2. “Dw i am glirio popeth yn llwyr oddi ar y ddaear,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

3. “Dw i am glirio pobl ac anifeiliaid.Dw i am glirio adar a physgod(yr holl ddelwau a'r bobl ddrwg.)Dw i'n mynd i gael gwared â'r ddynoliaethoddi ar wyneb y ddaear,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

4. “Dw i'n mynd i daro Jerwsalema phawb sy'n byw yn Jwda.Dw i am gael gwared ag addoli Baal yn llwyr,a fydd neb yn cofio'r offeiriaid ffals ac anffyddlon.

5. Dw i am gael gwared â'r rhaisy'n addoli'r haul a'r lleuad a'r sêr o ben y toeau,a'r rhai sy'n honni eu bod yn ffyddlon i'r ARGLWYDDtra'n tyngu llw yn enw Milcom.

6. A dw i am gael gwared â'r rhaisydd wedi troi cefn arna i, yr ARGLWYDD,a byth yn troi ata i am help nac arweiniad.”

7. Ust! o flaen y Meistr, yr ARGLWYDD!Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos.Mae'r ARGLWYDD wedi paratoi'r aberth,ac wedi cysegru'r rhai mae'n eu gwahodd.

8. “Ar ddiwrnod yr aberth mawr,” meddai'r ARGLWYDD,“dw i'n mynd i gosbi swyddogion a theulu'r brenin,a phawb sy'n gwisgo fel paganiaid.

9. Ar y diwrnod hwnnw bydda i yn cosbi pawbsy'n neidio dros y stepen drws,ac yn llenwi palas eu meistrgyda chyfoeth wedi ei ddwyn trwy drais a gormes.”

10. “Ar y diwrnod hwnnw hefyd,” meddai'r ARGLWYDD,“bydd sŵn gweiddi wrth Giât y Pysgod,a sgrechian o ran newydd y ddinas;bydd twrw mawr yn dod o'r bryniau.

11. Udwch, chi sy'n oedi yn y farchnad,achos bydd y masnachwyr wedi mynd,a'r rhai sy'n trin arian wedi eu taflu allan.

12. Bryd hynny, bydda i'n chwilio drwy Jerwsalem gyda lampau,ac yn cosbi'r rhai sy'n hunanfodlon a di-hid,sy'n meddwl, ‘Fydd yr ARGLWYDD yn gwneud dim byd – na da na drwg.’

13. Bydd eu heiddo'n cael ei ddwyn,a'u tai yn cael eu chwalu.Maen nhw'n adeiladu tai newydd,ond gân nhw ddim byw ynddyn nhw.Maen nhw'n plannu gwinllannoeddond gân nhw ddim yfed y gwin.”

14. Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos;y dydd mawr – bydd yma'n fuan!Bydd sŵn chwerw i'w glywed y diwrnod hwnnw;sŵn milwyr cryf yn gweiddi crïo.

15. Bydd yn ddydd i Dduw fod yn ddig.Bydd yn ddiwrnod o helynt a gofid;yn ddiwrnod o ddifrod a dinistr.Bydd yn ddiwrnod tywyll ofnadwy;diwrnod o gymylau duon bygythiol.

16. Bydd sŵn y corn hwrdd, y bloeddio a'r brwydroyn bygwth y trefi caerog a'r tyrau amddiffynnol.

17. “Am bod y bobl wedi digio'r ARGLWYDDbydda i'n achosi helbul iddyn nhw!– byddan nhw ar goll fel pobl ddall.Bydd eu gwaed yn cael ei dywallt fel llwch,a'u perfeddion ar wasgar fel tail.

Seffaneia 1