Seffaneia 1:10-18 beibl.net 2015 (BNET)

10. “Ar y diwrnod hwnnw hefyd,” meddai'r ARGLWYDD,“bydd sŵn gweiddi wrth Giât y Pysgod,a sgrechian o ran newydd y ddinas;bydd twrw mawr yn dod o'r bryniau.

11. Udwch, chi sy'n oedi yn y farchnad,achos bydd y masnachwyr wedi mynd,a'r rhai sy'n trin arian wedi eu taflu allan.

12. Bryd hynny, bydda i'n chwilio drwy Jerwsalem gyda lampau,ac yn cosbi'r rhai sy'n hunanfodlon a di-hid,sy'n meddwl, ‘Fydd yr ARGLWYDD yn gwneud dim byd – na da na drwg.’

13. Bydd eu heiddo'n cael ei ddwyn,a'u tai yn cael eu chwalu.Maen nhw'n adeiladu tai newydd,ond gân nhw ddim byw ynddyn nhw.Maen nhw'n plannu gwinllannoeddond gân nhw ddim yfed y gwin.”

14. Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos;y dydd mawr – bydd yma'n fuan!Bydd sŵn chwerw i'w glywed y diwrnod hwnnw;sŵn milwyr cryf yn gweiddi crïo.

15. Bydd yn ddydd i Dduw fod yn ddig.Bydd yn ddiwrnod o helynt a gofid;yn ddiwrnod o ddifrod a dinistr.Bydd yn ddiwrnod tywyll ofnadwy;diwrnod o gymylau duon bygythiol.

16. Bydd sŵn y corn hwrdd, y bloeddio a'r brwydroyn bygwth y trefi caerog a'r tyrau amddiffynnol.

17. “Am bod y bobl wedi digio'r ARGLWYDDbydda i'n achosi helbul iddyn nhw!– byddan nhw ar goll fel pobl ddall.Bydd eu gwaed yn cael ei dywallt fel llwch,a'u perfeddion ar wasgar fel tail.

18. Fydd arian ac aur ddim yn eu harbed nhwar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn barnu.Bydd ei ddicter fel tân yn difa'r ddaear.Bydd dinistr llwyr a sydyn yn dodar bawb drwy'r byd i gyd.”

Seffaneia 1