1. Dyma'r neges roddodd yr ARGLWYDD i Seffaneia. Roedd Seffaneia yn fab i Cwshi, mab Gedaleia, mab Amareia, mab Heseceia. Cafodd y neges pan oedd Joseia fab Amon yn frenin ar Jwda.
2. “Dw i am glirio popeth yn llwyr oddi ar y ddaear,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
3. “Dw i am glirio pobl ac anifeiliaid.Dw i am glirio adar a physgod(yr holl ddelwau a'r bobl ddrwg.)Dw i'n mynd i gael gwared â'r ddynoliaethoddi ar wyneb y ddaear,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.