Sechareia 14:3-12 beibl.net 2015 (BNET)

3. Ond yna bydd yr ARGLWYDD yn mynd allan i ymladd yn erbyn y gwledydd hynny, fel gwnaeth e ymladd yn y gorffennol.

4. Bryd hynny bydd e'n sefyll ar Fynydd yr Olewydd i'r dwyrain o Jerwsalem. A bydd Mynydd yr Olewydd yn hollti o'r dwyrain i'r gorllewin, gan adael dyffryn llydan. Bydd hanner y mynydd yn symud tua'r gogledd, a hanner tua'r de.

5. A byddwch chi'n dianc ar hyd y dyffryn yma yr holl ffordd i Atsel, fel gwnaethoch chi ddianc adeg y daeargryn pan oedd Wseia'n frenin ar Jwda. Yna bydd fy ARGLWYDD Dduw yn dod, a'i angylion sanctaidd gydag e.

6. Bryd hynny fydd dim golau – bydd y sêr disglair yn rhewi.

7. Bydd yn ddiwrnod unigryw. Yr ARGLWYDD sy'n gwybod pryd. Fydd dim dydd na nos; ac eto bydd hi'n dal yn olau gyda'r nos.

8. Bryd hynny hefyd bydd dŵr glân croyw yn llifo allan o Jerwsalem – ei hanner yn llifo i'r dwyrain, i'r Môr Marw, a'r hanner arall i'r gorllewin, i Fôr y Canoldir. Bydd yn llifo rownd y flwyddyn, haf a gaeaf.

9. A bydd yr ARGLWYDD yn frenin dros y byd i gyd. Yr ARGLWYDD fydd yr unig un, a'i enw e fydd yn cael ei addoli.

10. Bydd y tir i gyd (o Geba i Rimmon, sydd i'r de o Jerwsalem) yn cael ei droi yn wastatir. Ond bydd Jerwsalem gyfan yn sefyll yn uchel yn ei lle – o Giât Benjamin i safle'r Giât gyntaf ac yna ymlaen at Giât y Gornel, ac o Dŵr Chanan-el i'r cafnau gwin brenhinol.

11. Bydd pobl yn byw yno, a fydd y ddinas byth eto'n cael ei melltithio a'i dinistrio. Bydd Jerwsalem yn hollol saff.

12. Ond bydd yr ARGLWYDD yn anfon pla i daro'r gwledydd hynny wnaeth ymosod ar Jerwsalem: Bydd eu cyrff yn pydru tra byddan nhw'n dal ar eu traed. Bydd eu llygaid yn pydru'n eu pennau. Bydd eu tafodau'n pydru'n eu cegau.

Sechareia 14