Sechareia 13:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Bryd hynny bydd ffynnon wedi ei hagor bob amser i deulu brenhinol Dafydd a phobl Jerwsalem, i'w glanhau o bechod ac aflendid.”

2. “Bryd hynny hefyd,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—“dw i'n mynd i gael gwared â'r eilunod o'r tir. Fydd neb yn cofio eu henwau nhw hyd yn oed. A bydda i hefyd yn cael gwared â'r proffwydi ffals a'r ysbrydion aflan o'r tir.

3. Wedyn os bydd rhywun yn proffwydo, bydd ei dad a'i fam yn dweud wrtho, ‘Rhaid i ti farw! Ti'n honni siarad ar ran yr ARGLWYDD, ond yn proffwydo celwydd!’ A bydd ei dad a'i fam yn ei drywanu i farwolaeth.

4. “Bryd hynny bydd gan broffwyd gywilydd o'i weledigaethau, a bydd yn ceisio cuddio'r gwir drwy stopio gwisgo clogyn blewog proffwydi.

5. Bydd yn gwadu popeth a dweud, ‘Fi? Dw i ddim yn broffwyd. Dw i wedi bod yn gweithio fel gwas ar y tir es pan oeddwn i'n ifanc.’

6. Yna bydd rhywun yn gofyn iddo, ‘Felly, beth ydy'r creithiau yna ar dy frest di?’ A bydd yn ateb, ‘Ces fy anafu yn nhŷ ffrindiau.’”

7. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud,“Deffra gleddyf! Ymosod ar fy mugail,y dyn sy'n agos ata i.Taro'r bugail,a bydd y praidd yn mynd ar chwâl.Bydda i'n taro'r rhai bach hefyd.

Sechareia 13