Sechareia 10:8-12 beibl.net 2015 (BNET)

8. Dw i'n mynd i chwibanui'w casglu nhw at ei gilydd –dw i'n eu gollwng nhw'n rhydd!Bydd cymaint ohonyn nhw ag o'r blaen.

9. Er i mi eu gwasgaru drwy'r gwledydd,byddan nhw'n meddwl amdana i mewn mannau pell –a byddan nhw a'u plant yn dod yn ôl

10. Bydda i'n dod â nhw yn ôl o'r Aifft,ac yn eu casglu nhw o Asyria;mynd â nhw i dir Gilead a Libanus,a fydd hyd yn oed hynny ddim digon o le.

11. Byddan nhw'n croesi'r môr stormus,a bydd e'n tawelu'r tonnau.Bydd dŵr dwfn yr Afon Nil yn sychu,balchder Asyria'n cael ei dorri,a'r Aifft yn rheoli ddim mwy.

12. Bydda i'n gwneud fy mhobl yn gryf,a byddan nhw'n byw fel dw i'n dweud,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

Sechareia 10