Sechareia 10:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Gofynnwch i'r ARGLWYDD am lawadeg tymor cawodydd y gwanwyn –yr ARGLWYDD sy'n anfon y stormydd.Bydd yn anfon cawodydd trwm o lawa bydd digon o gnydau yn tyfu i bawb.

2. Mae eilun-ddelwau teuluol yn camarwain pobl,a'r rhai sy'n dweud ffortiwn yn twyllo– mae eu breuddwydion yn ffals,a'u cysur yn ddiwerth.Felly mae'r bobl yn crwydro fel defaid,heb fugail i'w hamddiffyn.

3. “Dw i wedi gwylltio'n lân gyda ‛bugeiliaid‛ y gwledydd,ac yn mynd i'w cosbi nhw – y ‛bychod‛ sydd ar y blaen!”Mae'r ARGLWYDD holl-bwerusyn mynd i ofalu am ei braidd, sef pobl Jwda,a'u gwneud nhw fel ceffylau rhyfel cryfion.

4. Ohonyn nhw y daw y garreg sylfaen,Ohonyn nhw daw'r peg i ddal y babell,Ohonyn nhw daw'r bwa rhyfel,Ohonyn nhw daw pob arweinydd cryf.

5. Byddan nhw fel milwyr dewr mewn brwydryn martsio drwy'r mwd ar faes y gâd.Am fod yr ARGLWYDD gyda nhw,byddan nhw'n ymladdac yn curo cafalri'r gelyn.

6. “Dw i'n mynd i wneud teyrnas Jwda'n gryf,ac achub pobl Israel.Dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôla dangos trugaredd atyn nhw –bydd fel petawn i erioed wedi eu gwrthod nhw.Fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw nhw,a dw i'n mynd i'w hateb nhw.

Sechareia 10