3. Boed i bawb dy addoli di – y Duw mawr, rhyfeddol!Ti ydy'r Duw sanctaidd!
4. Ti ydy'r brenin cryf sy'n caru cyfiawnder!Ti ydy'r un sydd wedi dangos beth ydy tegwch,ac yn hybu cyfiawnder a chwarae teg yn Jacob.
5. Addolwch yr ARGLWYDD ein Duw!Ymgrymwch i lawr wrth ei stôl droed!Mae e'n sanctaidd!
6. Roedd Moses, ac Aaron ei offeiriad,a Samuel yn galw ar ei enw –Roedden nhw'n galw ar yr ARGLWYDD,ac roedd e'n ateb.
7. Siaradodd gyda nhw o'r golofn o niwl.Roedden nhw'n ufudd i'w orchmynion,a'r rheolau roddodd iddyn nhw.