Salm 98:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Canwch gân newydd i'r ARGLWYDD,am ei fod wedi gwneud pethau anhygoel!Mae ei fraich gref,wedi ennill y fuddugoliaeth iddo.

2. Mae'r ARGLWYDD wedi dangos ei allu i achub!Mae wedi dangos i'r cenhedloedd ei fod yn Dduw cyfiawn.

3. Mae wedi cofio ei gariad a'i ffyddlondeb i bobl Israel;ac mae pawb drwy'r byd i gyd wedi gweld Duw yn achub.

4. Dewch, bawb drwy'r byd i gyd,gwaeddwch yn uchel i'r ARGLWYDD!Gweiddi'n llawen, a chanu mawl iddo!

5. Canwch fawl ar y delyn i'r ARGLWYDD;canwch gân hyfryd i gyfeiliant y delyn!

6. Seiniwch yr utgyrn a chwythu'r corn hwrdd.Dewch, bawb drwy'r byd i gyd,gwaeddwch yn uchel i'r ARGLWYDD, y Brenin!

7. Boed i'r môr a phopeth sydd ynddo weiddi;a'r byd hefyd, a phawb sy'n byw ynddo.

Salm 98