Salm 97:7-12 beibl.net 2015 (BNET)

7. Mae'r rhai sy'n addoli eilun-dduwiau yn cywilyddio –y rhai oedd mor falch o'u delwau diwerth.Mae'r ‛duwiau‛ i gyd yn plygu o'i flaen.

8. Roedd Seion yn hapus pan glywodd hyn,ac roedd pentrefi Jwda'n dathluam dy fod ti'n barnu'n deg, O ARGLWYDD.

9. Achos rwyt ti, ARGLWYDD, yn Dduw dros yr holl fyd;rwyt ti'n llawer gwell na'r holl ‛dduwiau‛ eraill i gyd.

10. Mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n casáu drygioni.Mae e'n amddiffyn y rhai sy'n ffyddlon iddo,ac yn eu hachub nhw o afael pobl ddrwg.

11. Mae golau'n disgleirio ar y rhai sy'n byw'n gywir,a llawenydd ar y rhai sy'n onest.

12. Chi rai cyfiawn, byddwch yn llawen yn yr ARGLWYDD,a'i foli wrth gofio mor sanctaidd ydy e!

Salm 97