Salm 94:3-16 beibl.net 2015 (BNET)

3. Am faint mwy mae'r rhai drwg, O ARGLWYDD –am faint mwy mae'r rhai drwg i gael dathlu?

4. Maen nhw'n chwydu eu geiriau balchwrth frolio eu hunain.

5. Maen nhw'n sathru dy bobl dan draed, O ARGLWYDD,ac yn cam-drin dy etifeddiaeth.

6. Mae'n nhw'n lladd y gweddwon a'r mewnfudwyr,ac yn llofruddio'r plant amddifad.

7. Maen nhw'n meddwl, “Dydy'r ARGLWYDD ddim yn gweld,dydy Duw Jacob yn cymryd dim sylw.”

8. Chi bobl dwp, mae'n bryd i chi ddeall!Chi ffyliaid, pryd ydych chi'n mynd i gallio?

9. Ydy'r un roddodd siâp i'r glust ddim yn clywed?Ydy'r un wnaeth greu y llygad ddim yn gweld?

10. Ydy'r un sy'n disgyblu'r cenhedloedd ddim yn cosbi? –Fe ydy'r un sy'n dysgu gwersi i'r ddynoliaeth!

11. Mae'r ARGLWYDD yn gwybod fod cynlluniau dynolyn wastraff amser, fel tarth yn diflannu!

12. Mae'r un sy'n cael ei ddisgyblu gen ti wedi ei fendithio'n fawr, ARGLWYDD;yr un rwyt ti'n dysgu dy gyfraith iddo.

13. Mae'n dawel ei feddwl pan mae pethau'n anodd.Mae'n gwybod y bydd y rhai drwg yn syrthio i dwll.

14. Fydd yr ARGLWYDD ddim yn siomi ei bobl.Fydd e ddim yn troi cefn ar ei etifeddiaeth.

15. Cyfiawnder fydd yn cario'r dydd,a'r rhai sy'n byw'n gywir yn ei ddilyn.

16. Oes rhywun am ochri gyda fi yn erbyn y rhai drwg?Oes rhywun am sefyll hefo fi yn erbyn pobl ddrwg?

Salm 94