Salm 94:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. O Dduw sy'n dial pob cam! O ARGLWYDD!O Dduw sy'n dial pob cam, disgleiria!

2. Cod ar dy draed, Farnwr y ddaear,a rhoi beth maen nhw'n haeddu i'r rhai balch!

3. Am faint mwy mae'r rhai drwg, O ARGLWYDD –am faint mwy mae'r rhai drwg i gael dathlu?

4. Maen nhw'n chwydu eu geiriau balchwrth frolio eu hunain.

5. Maen nhw'n sathru dy bobl dan draed, O ARGLWYDD,ac yn cam-drin dy etifeddiaeth.

6. Mae'n nhw'n lladd y gweddwon a'r mewnfudwyr,ac yn llofruddio'r plant amddifad.

7. Maen nhw'n meddwl, “Dydy'r ARGLWYDD ddim yn gweld,dydy Duw Jacob yn cymryd dim sylw.”

Salm 94