1. O Dduw sy'n dial pob cam! O ARGLWYDD!O Dduw sy'n dial pob cam, disgleiria!
2. Cod ar dy draed, Farnwr y ddaear,a rhoi beth maen nhw'n haeddu i'r rhai balch!
3. Am faint mwy mae'r rhai drwg, O ARGLWYDD –am faint mwy mae'r rhai drwg i gael dathlu?
4. Maen nhw'n chwydu eu geiriau balchwrth frolio eu hunain.
5. Maen nhw'n sathru dy bobl dan draed, O ARGLWYDD,ac yn cam-drin dy etifeddiaeth.