1. Mae'n beth da diolch i'r ARGLWYDD,a chanu mawl i dy enw di, y Duw Goruchaf.
2. Canu yn y bore am dy gariad,a chyda'r nos am dy ffyddlondeb,
3. i gyfeiliant offeryn dectant a nabla thannau'r delyn.
4. Ti'n fy ngwneud i mor hapus, O ARGLWYDD;a dw i'n canu'n uchel o achos y cwbl rwyt ti'n wneud.
5. Ti'n gwneud pethau mawr, O ARGLWYDD!Mae dy feddyliau di mor ddwfn!
6. Dim ond twpsyn sydd ddim yn gweld hynny;dim ond ffŵl fyddai ddim yn deall!
7. Mae pobl ddrwg yn llwyddo – ond maen nhw fel glaswellt –Er bod y rhai sy'n gwneud drwg fel petaen nhw'n blodeuo,byddan nhw'n cael eu dinistrio am byth!
8. Ond ti ydy'r Un sydd uwchlaw popeth,a hynny am byth, O ARGLWYDD.
9. Bydd dy elynion di, ARGLWYDD,bydd dy elynion di yn cael eu dinistrio!Bydd pawb sy'n gwneud drygioni yn cael eu gwasgaru!
10. Ti wedi fy ngwneud i'n gryf fel ych gwyllt;ti wedi fy eneinio i ag olew iraidd.