Salm 90:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Fy Meistr, rwyt ti wedi bod yn lle saff i ni guddioar hyd y cenedlaethau.

2. Cyn i'r mynyddoedd gael eu geni,a chyn bod y ddaear a'r byd yn bodoli,roeddet ti yn Dduw, o dragwyddoldeb pell.

3. Ti sy'n anfon pobl yn ôl i'r pridddrwy ddweud, “Ewch yn ôl, chi bobl feidrol!”

4. Mae mil o flynyddoedd yn dy olwg difel diwrnod sydd wedi pasio heibio,neu fel gwylfa nos.

5. Ond mae pobl yn cael eu llethu gan gwsg,ac yna fel glaswellt yn adfywio yn y bore.

6. Mae'n tyfu ac yn llawn bywyd yn y bore,ond erbyn iddi nosi mae wedi gwywo a sychu.

7. Dyna sut dŷn ni'n gwywo pan rwyt ti'n gwylltio;mae dy lid yn ein dychryn ni am ein bywydau.

8. Ti'n gwybod am ein methiant ni i gyd,ac yn gweld ein pechodau cudd ni.

9. Mae'n bywydau ni'n mynd heibio dan dy ddig;mae'n blynyddoedd ni'n darfod fel ochenaid.

Salm 90