1. Fy Meistr, rwyt ti wedi bod yn lle saff i ni guddioar hyd y cenedlaethau.
2. Cyn i'r mynyddoedd gael eu geni,a chyn bod y ddaear a'r byd yn bodoli,roeddet ti yn Dduw, o dragwyddoldeb pell.
3. Ti sy'n anfon pobl yn ôl i'r pridddrwy ddweud, “Ewch yn ôl, chi bobl feidrol!”
4. Mae mil o flynyddoedd yn dy olwg difel diwrnod sydd wedi pasio heibio,neu fel gwylfa nos.
5. Ond mae pobl yn cael eu llethu gan gwsg,ac yna fel glaswellt yn adfywio yn y bore.