Salm 89:26-46 beibl.net 2015 (BNET)

26. Bydd e'n dweud wrtho i,‘Ti ydy fy Nhad i, fy Nuw, a'r graig sy'n fy achub i.’

27. Bydda i'n ei wneud e yn fab hynaf i mi,yn uwch na holl frenhinoedd y byd.

28. Bydda i'n aros yn ffyddlon iddo am byth;mae fy ymrwymiad iddo yn hollol ddiogel.

29. Bydd ei ddisgynyddion yn ei olynu am byth,a'i orsedd yn para mor hir â'r nefoedd.

30. Os bydd ei feibion yn troi cefn ar fy nysgeidiaethac yn gwrthod gwneud beth dw i'n ddweud;

31. os byddan nhw'n torri fy rheolau i,a ddim yn cadw fy ngorchmynion i,

32. bydda i'n eu cosbi nhw gyda gwialen am eu gwrthryfel;gyda plâu am iddyn nhw fynd ar gyfeiliorn.

33. Ond fydda i ddim yn stopio ei garu e,a fydda i ddim yn anffyddlon iddo.

34. Fydda i ddim yn torri'r ymrwymiad wnes i;bydda i'n gwneud beth wnes i addo iddo.

35. Dw i, y Duw sanctaidd, wedi tyngu llw,na fydda i byth yn twyllo Dafydd.

36. Bydd ei linach yn aros am byth,a'i orsedd yn para tra mae haul o'm blaen i.

37. Mae wedi ei sefydlu am byth, fel mae'r lleuadyn dyst ffyddlon i mi yn yr awyr.” Saib

38. Ond rwyt wedi ei wrthod, a'i wthio i'r naill ochr!Rwyt wedi gwylltio gyda'r brenin, dy eneiniog.

39. Rwyt wedi dileu'r ymrwymiad i dy was;ac wedi llusgo ei goron drwy'r baw.

40. Rwyt wedi bwrw ei waliau i lawr,a gwneud ei gaerau yn adfeilion.

41. Mae pawb sy'n pasio heibio yn dwyn oddi arno.Mae e'n destun sbort i'w gymdogion!

42. Ti wedi gadael i'r rhai sy'n ei gasáu ei goncro,a rhoi achos i'w elynion i gyd ddathlu.

43. Rwyt wedi troi min ei gleddyf arno fe'i hun,a heb ei helpu yn y frwydr.

44. Rwyt wedi dod â'i deyrnasiad gwych i ben,ac wedi bwrw ei orsedd i lawr.

45. Rwyt wedi ei droi'n hen ddyn cyn pryd;ac wedi ei orchuddio â chywilydd. Saib

46. Am faint mwy, O ARGLWYDD?Wyt ti wedi troi dy gefn arnon ni am byth?Fydd dy lid di'n llosgi fel tân am byth?

Salm 89