12. Ti greodd y gogledd a'r de;mae mynyddoedd Tabor a Hermon yn canu'n llawen i ti.
13. Mae dy fraich di mor bwerus,ac mae dy law di mor gref.Mae dy law dde wedi ei chodi'n fuddugoliaethus.
14. Tegwch a chyfiawnder ydy sylfaen dy orsedd.Cariad ffyddlon a gwirionedd sy'n dy nodweddu di.
15. Mae'r rhai sy'n dy addoli di'n frwd wedi eu bendithio'n fawr!O ARGLWYDD, nhw sy'n profi dy ffafr di.
16. Maen nhw'n llawenhau ynot ti drwy'r dydd;ac yn cael eu cynnal gan dy gyfiawnder.
17. Ti sy'n rhoi nerth ac ysblander iddyn nhw.Dy ffafr di sy'n rhoi'r fuddugoliaeth i ni!
18. Ti, ARGLWYDD, ydy'n tarian.Ti ydy'n brenin ni, Un Sanctaidd Israel.
19. Un tro, dyma ti'n siaradgyda dy ddilynwyr ffyddlon mewn gweledigaeth.“Dw i wedi rhoi nerth i ryfelwr,” meddet ti;“dw i wedi codi bachgen ifanc o blith y bobl.
20. Dw i wedi dod o hyd i Dafydd, fy ngwas;a'i eneinio'n frenin gyda'r olew sanctaidd.
21. Bydda i yn ei gynnal e,ac yn rhoi nerth iddo.
22. Fydd dim un o'i elynion yn ei gael i dalu teyrnged,a fydd dim un gormeswr yn ei ddarostwng.