Salm 88:12-18 beibl.net 2015 (BNET)

12. Ydy'r rhai sy'n y lle tywyll yn gwybod am dy wyrthiau?Oes sôn am dy gyfiawnder ym myd angof?

13. Ond dw i wedi bod yn galw arnat ti am help, ARGLWYDD.Dw i'n gweddïo arnat ti bob bore.

14. Felly pam, O ARGLWYDD, wyt ti'n fy ngwrthod i?Pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i?

15. Dw i wedi diodde a bron marw lawer gwaith ers yn ifanc;dw i wedi gorfod wynebu pethau ofnadwy,nes fy mod wedi fy mharlysu.

16. Mae dy lid wedi llifo drosta i;mae dy ddychryn wedi fy ninistrio.

17. Mae'r cwbl yn troelli o'm cwmpas fel llifogydd;maen nhw'n cau amdana i o bob cyfeiriad.

18. Ti wedi gwneud i ffrindiau a chymdogion gadw draw oddi wrtho i –Yr unig gwmni sydd gen i bellach ydy'r tywyllwch!

Salm 88