Salm 86:8-17 beibl.net 2015 (BNET)

8. Does dim un o'r duwiau eraill yn debyg i ti, ARGLWYDD!Does neb arall yn gallu gwneud y pethau rwyt ti'n eu gwneud.

9. Bydd yr holl genhedloedd rwyt ti wedi eu creuyn dod ac yn plygu o dy flaen di, O ARGLWYDD!Byddan nhw'n anrhydeddu dy enw di,

10. am dy fod ti'n Dduw mawrac yn gwneud pethau anhygoel!Ti ydy'r unig Dduw go iawn!

11. Dysga fi sut i fyw, O ARGLWYDD,i mi dy ddilyn di'n ffyddlon.Gwna fi'n benderfynol o d'addoli di'n iawn.

12. Bydda i'n dy addoli o waelod calon, O ARGLWYDD fy Nuw,ac yn anrhydeddu dy enw am byth.

13. Mae dy gariad tuag ata i mor fawr!Ti wedi fy achub i o ddyfnder Annwn.

14. O Dduw, mae yna bobl haerllug wedi troi yn fy erbyn i.Mae yna griw creulon am fy lladd i,Does dim bwys ganddyn nhw amdanat ti.

15. Ond rwyt ti, O ARGLWYDD, mor drugarog a charedig,rwyt mor amyneddgar!Mae dy haelioni a dy ffyddlondeb di yn anhygoel!

16. Tro ata i, a dangos drugaredd!Rho dy nerth i dy was,Achub blentyn dy gaethferch!

17. Dangos i mi ryw arwydd o dy ddaioni,er mwyn i'r rhai sy'n fy nghasáu i weld hynnya chael eu cywilyddio am dy fod ti, ARGLWYDD,wedi fy helpu i a'm cysuro.

Salm 86