Salm 83:5-14 beibl.net 2015 (BNET)

5. Maen nhw'n unfrydol yn eu bwriad,ac wedi ffurfio cynghrair yn dy erbyn di –

6. pobl Edom a'r Ismaeliaid,Moab a'r Hagriaid,

7. Gebal, Ammon, ac Amalec,Philistia a phobl Tyrus.

8. Mae Asyria wedi ymuno â nhw hefyd,i roi help llaw i ddisgynyddion Lot. Saib

9. Delia gyda nhw fel y gwnest ti gyda Midian –fel y gwnest ti i Sisera a Jabin,wrth afon Cison.

10. Cawson nhw eu dinistrio yn En-dor.Roedd eu cyrff fel tail ar wyneb y tir!

11. Delia gyda'i harweinwyr nhwfel y gwnest ti gydag Oreb a Seeb.Gwna eu tywysogion nhwfel Seba a Tsalmwna,

12. oedd am ddwyn y tir i gyd oddi ar Dduw.

13. O fy Nuw, trin nhw fel plu ysgall,neu us yn cael ei chwythu gan y gwynt!

14. Difa nhw, fel mae tân yn llosgi coedwig,a'i fflamau'n lledu dros y bryniau.

Salm 83