1. O Dduw, paid bod yn ddistaw!Paid diystyru ni a gwneud dim!
2. Edrych! Mae dy elynion di'n codi twrw.Mae'r rhai sy'n dy gasáu di yn codi eu pennau.
3. Maen nhw mor gyfrwys, ac yn cynllwynio yn erbyn dy bobl di.Maen nhw am wneud niwed i'r rhai rwyt ti'n eu trysori!
4. Maen nhw'n dweud, “Gadewch i ni eu difa nhw'n llwyr!Fydd dim sôn am genedl Israel byth mwy.”