Salm 81:2-10 beibl.net 2015 (BNET)

2. Canwch gân, taro'r drwm,a chanu'r delyn fwyn a'r nabl!

3. Seiniwch y corn hwrdd ar y lleuad newydd,ar ddechrau'r Ŵyl pan mae'r lleuad yn llawn.

4. Dyma'r drefn yn Israel;gorchymyn wedi ei roi gan Dduw Jacob.

5. Rhoddodd hi'n rheol i bobl Joseffpan ymosododd ar yr Aifft i'w gollwng yn rhydd.Dw i'n clywed iaith dw i ddim yn ei deall –

6. “Cymerais y baich oddi ar dy ysgwyddau,a dy ollwng yn rhydd o orfod cario'r fasged.

7. Dyma ti'n gweiddi yn dy argyfwng, a dyma fi'n dy achub;atebais di o'r lle dirgel ble mae'r taranau.Yna dy roi ar brawf wrth Ffynnon Meriba. Saib

8. Gwrandwch, fy mhobl, dw i'n eich rhybuddio chi!O na fyddet ti'n gwrando arna i, Israel!

9. Dwyt ti ddim i gael duw arallna phlygu i lawr i addoli duw estron.

10. Fi, yr ARGLWYDD ydy dy Dduw di.Fi ddaeth â ti allan o wlad yr Aifft.Agor dy geg, a bydda i'n dy fwydo!

Salm 81