Salm 81:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Canwch yn llawen i Dduw, ein nerth!Gwaeddwch yn uchel ar Dduw Jacob!

2. Canwch gân, taro'r drwm,a chanu'r delyn fwyn a'r nabl!

3. Seiniwch y corn hwrdd ar y lleuad newydd,ar ddechrau'r Ŵyl pan mae'r lleuad yn llawn.

4. Dyma'r drefn yn Israel;gorchymyn wedi ei roi gan Dduw Jacob.

5. Rhoddodd hi'n rheol i bobl Joseffpan ymosododd ar yr Aifft i'w gollwng yn rhydd.Dw i'n clywed iaith dw i ddim yn ei deall –

6. “Cymerais y baich oddi ar dy ysgwyddau,a dy ollwng yn rhydd o orfod cario'r fasged.

Salm 81