Salm 8:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. O ARGLWYDD, ein brenin,mae dy enw di mor fawr drwy'r byd i gyd!Mae dy ysblander yn gorchuddio'r nefoedd yn gyfan!

2. Gyda lleisiau plant bach a babanodrwyt yn dangos dy nerth, yn wyneb dy elynion,i roi diwedd ar y gelyn sy'n hoffi dial.

3. Wrth edrych allan i'r gofod, a gweld gwaith dy fysedd,y lleuad a'r sêr a osodaist yn eu lle,

4. Beth ydy pobl i ti boeni amdanyn nhw?Pam cymryd sylw o un person dynol?

5. Rwyt wedi ei wneud ond ychydig is na'r bodau nefol,ac wedi ei goroni ag ysblander a mawredd!

6. Rwyt wedi ei wneud yn feistr ar waith dy ddwylo,a gosod popeth dan ei awdurdod –

7. defaid ac ychen o bob math,a hyd yn oed yr anifeiliaid gwylltion;

8. yr adar sy'n hedfan, y pysgod sy'n y môr,a phopeth arall sy'n teithio ar gerrynt y moroedd.

9. O ARGLWYDD, ein brenin,mae dy enw di mor fawr drwy'r byd i gyd!

Salm 8