Salm 79:8-13 beibl.net 2015 (BNET)

8. Aethon ni ar gyfeiliorn, ond paid dal hynny yn ein herbyn.Brysia! Dangos dosturi aton ni,achos dŷn ni mewn trafferthion go iawn!

9. Helpa ni, O Dduw ein hachubwr,er mwyn dy enw da.Achub ni a maddau ein pechodau,er mwyn dy enw da.

10. Pam ddylai'r paganiaid gael dweud,“Ble mae eu Duw nhw?”Gad i ni dy weld di'n rhoi gwers i'r cenhedloedd,a talu'n ôl iddyn nhw am dywallt gwaed dy weision.

11. Gwrando ar y carcharorion rhyfel yn griddfan!Defnyddia dy nerth i arbedy rhai sydd wedi eu condemnio i farwolaeth!

12. Tala yn ôl yn llawn i'n cymdogion!Maen nhw wedi dy enllibio di, Feistr.

13. Yna byddwn ni, dy bobla phraidd dy borfa,yn ddiolchgar i ti am bythac yn dy foli di ar hyd y cenedlaethau!

Salm 79