Salm 79:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. O Dduw, mae'r gwledydd paganaidd wedi cymryd dy dir.Maen nhw wedi halogi dy deml sanctaidda troi Jerwsalem yn bentwr o gerrig.

2. Maen nhw wedi gadael cyrff dy weisionyn fwyd i'r adar;a chnawd dy bobl ffyddlon i anifeiliaid gwylltion.

3. Mae gwaed dy bobl yn llifofel dŵr o gwmpas Jerwsalem,a does neb i gladdu'r cyrff.

4. Dŷn ni'n gyff gwawd i'n cymdogion;ac yn destun sbort a dirmyg i bawb o'n cwmpas.

5. Am faint mwy, O ARGLWYDD?Fyddi di'n ddig am byth?Fydd dy eiddigedd, sy'n llosgi fel tân, byth yn diffodd?

6. Tywallt dy lid ar y bobloedd sydd ddim yn dy naboda'r teyrnasoedd hynny sydd ddim yn dy addoli!

7. Nhw ydy'r rhai sydd wedi llarpio Jacoba dinistrio ei gartref.

Salm 79