56. Ond dyma nhw'n rhoi'r Duw Goruchaf ar brawf eto!Gwrthryfela yn ei erbyn,a pheidio gwneud beth oedd yn ei ofyn.
57. Dyma nhw'n troi eu cefnau arno,a bod yn anffyddlon fel eu hynafiaid;roedden nhw fel bwa llac – yn dda i ddim!
58. Roedd eu hallorau paganaidd yn ei ddigio;a'u delwau metel yn ei wneud yn eiddigeddus.
59. Clywodd Duw nhw wrthi, ac roedd yn gynddeiriog;a gwrthododd Israel yn llwyr.
60. Trodd gefn ar ei dabernacl yn Seilo,sef y babell lle roedd yn byw gyda'i bobl.
61. Gadawodd i'w Arch gael ei dal;rhoddodd ei ysblander yn nwylo'r gelyn!
62. Gadawodd i'w bobl gael eu lladd gan y cleddyf;roedd wedi gwylltio gyda'i etifeddiaeth.
63. Daeth tân i ddinistrio'r dynion ifanc,ac roedd merched ifanc yn marw cyn priodi.
64. Trawodd y cleddyf eu hoffeiriaid i lawr,a doedd dim amser i'r gweddwon alaru.
65. Ond yna dyma'r Meistr yn deffro!Roedd fel milwr gwallgo wedi cael gormod o win.
66. Gyrrodd ei elynion yn eu holaua chodi cywilydd arnyn nhw am byth.
67. Ond yna gadawodd dir Joseff;a pheidio dewis llwyth Effraim.
68. Dewisodd lwyth Jwda,a Mynydd Seion mae mor hoff ohono.