Salm 78:44-53 beibl.net 2015 (BNET)

44. Trodd yr afonydd yn waed,fel eu bod nhw'n methu yfed y dŵr.

45. Anfonodd haid o bryfed i'w pigoa llyffaint i ddifetha'r wlad.

46. Tarodd eu cnydau â phla o lindys,ffrwyth y tir â phla o locustiaid.

47. Dinistriodd y gwinwydd â chenllysg,a'r coed sycamorwydd â rhew.

48. Trawodd y cenllysg eu gwartheg,a'r mellt eu preiddiau.

49. Dangosodd ei fod yn ddig gyda nhw,yn wyllt gynddeiriog! Tarodd nhw â thrybini,ac anfon criw o angylion dinistriol

50. i agor llwybr i'w lid.Wnaeth e ddim arbed eu bywydau,ond anfon haint i'w dinistrio nhw.

51. Trawodd y mab hynaf ym mhob teulu yn yr Aifft,ffrwyth cyntaf eu cyfathrach ym mhebyll Cham.

52. Yna aeth â'i bobl allan fel defaid,a'u harwain fel praidd yn yr anialwch.

53. Arweiniodd nhw'n saff a heb ofn;ond cafodd y gelynion eu llyncu yn y môr.

Salm 78