Salm 78:23-33 beibl.net 2015 (BNET)

23. Ond rhoddodd orchymyn i'r awyr uwch eu pennau,ac agorodd ddrysau'r nefoedd.

24. Glawiodd fanna iddyn nhw i'w fwyta;rhoddodd ŷd o'r nefoedd iddyn nhw!

25. Cafodd y bobl fwyta bara'r angylion!Roedd digonedd o fwyd i bawb.

26. Yna gwnaeth i wynt y dwyrain chwythu'n yr awyr,ac arweiniodd wynt y de drwy ei nerth.

27. Roedd hi'n glawio cig fel llwch,adar yn hedfan – cymaint â'r tywod ar lan y môr!

28. Gwnaeth iddyn nhw ddisgyn yng nghanol y gwersyll,o gwmpas y babell lle roedd e'i hun yn aros.

29. Felly cawson nhw fwy na digon i'w fwyta;rhoddodd iddyn nhw'r bwyd roedden nhw'n crefu amdano.

30. Ond cyn iddyn nhw orffen bwyta,pan oedd y bwyd yn dal yn eu cegau,

31. dyma Duw yn dangos mor ddig oedd e!Lladdodd y rhai cryfaf ohonyn nhw,a tharo i lawr rai ifanc Israel.

32. Ond hyd yn oed wedyn roedden nhw'n dal i bechu!Doedden nhw ddim yn credu yn ei allu rhyfeddol.

33. Yn sydyn roedd Duw wedi dod a'u dyddiau i ben;daeth y diwedd mewn trychineb annisgwyl.

Salm 78