Salm 78:18-31 beibl.net 2015 (BNET)

18. Roedden nhw'n fwriadol yn rhoi Duw ar brawftrwy hawlio'r bwyd roedden nhw'n crefu amdano.

19. Roedden nhw'n sarhau Duw trwy ofyn,“Ydy'r gallu gan Dduw i wneud hyn?All e baratoi gwledd i ni yn yr anialwch?

20. Mae'n wir ei fod wedi taro'r graig,a bod dŵr wedi pistyllio allana llifo fel afonydd.Ond ydy e'n gallu rhoi bwyd i ni hefyd?Ydy e'n gallu rhoi cig i'w bobl?”

21. Roedd yr ARGLWYDD yn gynddeiriog pan glywodd hyn.Roedd fel tân yn llosgi yn erbyn pobl Jacob.Roedd wedi gwylltio'n lân gydag Israel,

22. am eu bod nhw heb drystio Duw,a chredu ei fod yn gallu achub.

23. Ond rhoddodd orchymyn i'r awyr uwch eu pennau,ac agorodd ddrysau'r nefoedd.

24. Glawiodd fanna iddyn nhw i'w fwyta;rhoddodd ŷd o'r nefoedd iddyn nhw!

25. Cafodd y bobl fwyta bara'r angylion!Roedd digonedd o fwyd i bawb.

26. Yna gwnaeth i wynt y dwyrain chwythu'n yr awyr,ac arweiniodd wynt y de drwy ei nerth.

27. Roedd hi'n glawio cig fel llwch,adar yn hedfan – cymaint â'r tywod ar lan y môr!

28. Gwnaeth iddyn nhw ddisgyn yng nghanol y gwersyll,o gwmpas y babell lle roedd e'i hun yn aros.

29. Felly cawson nhw fwy na digon i'w fwyta;rhoddodd iddyn nhw'r bwyd roedden nhw'n crefu amdano.

30. Ond cyn iddyn nhw orffen bwyta,pan oedd y bwyd yn dal yn eu cegau,

31. dyma Duw yn dangos mor ddig oedd e!Lladdodd y rhai cryfaf ohonyn nhw,a tharo i lawr rai ifanc Israel.

Salm 78