Salm 78:10-16 beibl.net 2015 (BNET)

10. Wnaethon nhw ddim cadw eu hymrwymiad i Dduw,na gwrando ar ei ddysgeidiaeth.

11. Roedden nhw wedi anghofio'r cwbl wnaeth e,a'r pethau rhyfeddol oedd wedi ei ddangos iddyn nhw.

12. Gwnaeth bethau rhyfeddol o flaen eu hynafiaidyn yr Aifft, ar wastatir Soan.

13. Holltodd y môr a'u harwain nhw trwyddo;a gwneud i'r dŵr sefyll i fyny fel wal.

14. Eu harwain gyda chwmwl yn ystod y dydd,ac yna tân disglair drwy'r nos.

15. Holltodd greigiau yn yr anialwch,a rhoi digonedd o ddŵr iddyn nhw i'w yfed.

16. Nentydd yn arllwys o'r graig;dŵr yn llifo fel afonydd!

Salm 78