1. Gwrandwch arna i'n eich dysgu, fy mhobl!Trowch i wrando ar beth dw i'n ddweud.
2. Dw i'n mynd i adrodd straeon,a dweud am bethau o'r gorffennol sy'n ddirgelwch;
3. pethau glywson ni, a'u dysguam fod ein hynafiaid wedi adrodd y stori.
4. A byddwn ni'n eu rhannu gyda'n plant,ac yn dweud wrth y genhedlaeth nesa.Dweud fod yr ARGLWYDD yn haeddu ei foli!Son am ei nerth a'r pethau rhyfeddol a wnaeth.
5. Rhoddodd ei reolau i bobl Jacob,a sefydlu ei gyfraith yn Israel.Gorchmynnodd i'n hynafiaideu dysgu i'w plant,
6. er mwyn i'r genhedlaeth nesaf wybodsef y plant sydd heb eu geni eto –iddyn nhw, yn eu tro, ddysgu eu plant.
7. Iddyn nhw ddysgu trystio Duwa peidio anghofio'r pethau mawr mae'n eu gwneud.Iddyn nhw fod yn ufudd i'w orchmynion,
8. yn lle bod fel eu hynafiaidyn tynnu'n groes ac yn ystyfnig;cenhedlaeth oedd yn anghyson,ac yn anffyddlon i Dduw.
9. Fel dynion Effraim, bwasaethwyr gwych,yn troi cefn yng nghanol y frwydr.
10. Wnaethon nhw ddim cadw eu hymrwymiad i Dduw,na gwrando ar ei ddysgeidiaeth.
11. Roedden nhw wedi anghofio'r cwbl wnaeth e,a'r pethau rhyfeddol oedd wedi ei ddangos iddyn nhw.
12. Gwnaeth bethau rhyfeddol o flaen eu hynafiaidyn yr Aifft, ar wastatir Soan.
13. Holltodd y môr a'u harwain nhw trwyddo;a gwneud i'r dŵr sefyll i fyny fel wal.