Salm 77:6-16 beibl.net 2015 (BNET)

6. Cofio'r gân roeddwn i'n arfer ei chanu.Meddwl drwy'r nos am y peth, a chwilio am ateb.

7. “Ydy'r ARGLWYDD wedi troi cefn arnon ni am byth?Ydy e'n mynd i ddangos ei ffafr aton ni eto?

8. Ydy ei ffyddlondeb e wedi dod i ben yn llwyr?Ydy'r addewidion wnaeth e byth yn mynd i gael eu cyflawni?

9. Ydy Duw wedi anghofio sut i ddangos trugaredd?Ydy ei ddig yn gryfach na'i dosturi?” Saib

10. “Mae meddwl y fath beth yn codi cyfog arna i:fod y Goruchaf wedi newid ei ffyrdd.”

11. Dw i'n mynd i atgoffa fy hun beth wnaeth yr ARGLWYDD –ydw, dw i'n cofio'r pethau rhyfeddol wnest ti ers talwm!

12. Dw i'n mynd i gofio am bopeth wnest ti,a myfyrio ar y cwbl.

13. O Dduw, mae dy ffyrdd di yn gwbl unigryw!Oes yna dduw tebyg i'n Duw ni?

14. Na! Ti ydy'r Duw sy'n gwneud pethau anhygoel!Ti wedi dangos dy nerth i'r bobloedd i gyd.

15. Ti wnaeth ollwng dy bobl yn rhydd gyda dy fraich gref,sef disgynyddion Jacob a Joseff. Saib

16. Dyma'r dyfroedd yn dy weld di, O Dduw,dyma'r dyfroedd yn dy weld di ac yn cynhyrfu.Roedd y môr dwfn yn crynu mewn ofn!

Salm 77