10. “Mae meddwl y fath beth yn codi cyfog arna i:fod y Goruchaf wedi newid ei ffyrdd.”
11. Dw i'n mynd i atgoffa fy hun beth wnaeth yr ARGLWYDD –ydw, dw i'n cofio'r pethau rhyfeddol wnest ti ers talwm!
12. Dw i'n mynd i gofio am bopeth wnest ti,a myfyrio ar y cwbl.
13. O Dduw, mae dy ffyrdd di yn gwbl unigryw!Oes yna dduw tebyg i'n Duw ni?
14. Na! Ti ydy'r Duw sy'n gwneud pethau anhygoel!Ti wedi dangos dy nerth i'r bobloedd i gyd.
15. Ti wnaeth ollwng dy bobl yn rhydd gyda dy fraich gref,sef disgynyddion Jacob a Joseff. Saib
16. Dyma'r dyfroedd yn dy weld di, O Dduw,dyma'r dyfroedd yn dy weld di ac yn cynhyrfu.Roedd y môr dwfn yn crynu mewn ofn!
17. Roedd y cymylau'n tywallt y glaw;yr awyr yn taranu,a dy saethau yn fflachio ym mhobman.
18. Roedd dy lais i'w glywed yn taranu yn y storm;dy fellt yn goleuo'r byd,a'r ddaear yn crynu trwyddi.
19. Agoraist ffordd drwy'r môr;Cerddaist drwy'r dyfroedd cryfion,er bod neb yn gweld olion dy draed.
20. Dyma ti'n arwain dy bobl fel praidddan ofal Moses ac Aaron.