Salm 77:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dw i'n gweiddi'n uchel ar Dduw;yn gweiddi'n uchel ar iddo wrando arna i.

2. Dw i mewn helbul, ac yn troi at yr ARGLWYDD;dw i wedi bod yn estyn fy nwylo ato mewn gweddi trwy'r nos,ond ches i ddim cysur.

3. Dw i wedi bod yn ochneidio wrth feddwl am Dduw,dw i wedi bod yn myfyrio arno – ond yn anobeithio. Saib

4. Ti sydd wedi fy nghadw i'n effro;dw i mor boenus, wn i ddim beth i'w ddweud.

5. Dw i wedi bod yn meddwl am yr hen ddyddiau,flynyddoedd lawer yn ôl.

6. Cofio'r gân roeddwn i'n arfer ei chanu.Meddwl drwy'r nos am y peth, a chwilio am ateb.

7. “Ydy'r ARGLWYDD wedi troi cefn arnon ni am byth?Ydy e'n mynd i ddangos ei ffafr aton ni eto?

8. Ydy ei ffyddlondeb e wedi dod i ben yn llwyr?Ydy'r addewidion wnaeth e byth yn mynd i gael eu cyflawni?

9. Ydy Duw wedi anghofio sut i ddangos trugaredd?Ydy ei ddig yn gryfach na'i dosturi?” Saib

10. “Mae meddwl y fath beth yn codi cyfog arna i:fod y Goruchaf wedi newid ei ffyrdd.”

11. Dw i'n mynd i atgoffa fy hun beth wnaeth yr ARGLWYDD –ydw, dw i'n cofio'r pethau rhyfeddol wnest ti ers talwm!

Salm 77