Salm 76:7-12 beibl.net 2015 (BNET)

7. O! Rwyt ti mor rhyfeddol!Pwy sy'n gallu sefyll yn dy erbynpan rwyt ti'n ddig?

8. Wrth i ti gyhoeddi dy ddedfryd o'r nefoedd,roedd y ddaear wedi ei pharlysu gan ofn,

9. wrth weld Duw yn codi i farnuac achub y rhai sy'n cael eu cam-drin yn y tir. Saib

10. Bydd rhai mwyaf ffyrnig y ddaear yn dy gydnabodpan fyddi'n dangos dy ddigofaint yn llawn.

11. Gwnewch addunedau i'r ARGLWYDD eich Duw, a'u cadw!Boed i bawb sydd o'i gwmpas ddod รข rhoddioni'r Duw sydd i'w ofni!

12. Mae'n torri crib y llywodraethwyr balch,ac yn dychryn brenhinoedd y ddaear.

Salm 76