Salm 73:3-23 beibl.net 2015 (BNET)

3. Ro'n i'n genfigennus o'r rhai balch,wrth weld pobl ddrwg yn llwyddo.

4. Does dim byd yn eu rhwymo nhw;maen nhw'n iach yn gorfforol;

5. ddim yn cael eu hunain i helyntion fel pobl eraill;a ddim yn dioddef fel y gweddill ohonon ni.

6. Maen nhw'n gwisgo balchder fel cadwyn aur am eu gwddf,a chreulondeb ydy'r wisg amdanyn nhw.

7. Maen nhw'n llond eu croen,ac mor llawn ohonyn nhw eu hunain hefyd!

8. Maen nhw'n gwawdio ac yn siarad yn faleisus,ac mor hunanhyderus wrth fygwth gormesu.

9. Maen nhw'n siarad fel petai piau nhw'r nefoedd,ac yn strytian yn falch wrth drin y ddaear.

10. Ac mae pobl Dduw yn dilyn eu hesiampl,ac yn llyncu eu llwyddiant fel dŵr.

11. “Na, fydd Duw ddim yn gwybod!” medden nhw.“Ydy'r Goruchaf yn gwybod unrhyw beth?”

12. Edrychwch! Dyna sut rai ydy pobl ddrwg!Yn malio dim, ac yn casglu cyfoeth.

13. Mae'n rhaid fy mod i wedi cadw fy nghalon yn lân i ddim byd!Wedi bod mor ddiniwed wrth olchi fy nwylo!

14. Dw i wedi cael fy mhlagio'n ddi-baid,ac wedi dioddef rhyw gosb newydd bob bore.

15. Petawn i wedi siarad yn agored fel hynbyddwn i wedi bradychu dy bobl di.

16. Roeddwn i'n ceisio deall y peth,a doedd e'n gwneud dim sens,

17. nes i mi fynd i mewn i deml Dduwa sylweddoli beth oedd tynged y rhai drwg!

18. Byddi'n eu gosod nhw mewn lleoedd llithrig;ac yn gwneud iddyn nhw syrthio i ddinistr.

19. Byddan nhw'n cael eu dinistrio mewn chwinciad!Byddan nhw'n cael eu hysgubo i ffwrdd gan ofn.

20. Fel breuddwyd ar ôl i rywun ddeffro,byddi di'n deffro, O ARGLWYDD,a fyddan nhw'n ddim byd ond atgof.

21. Dw i wedi bod yn chwerw fel finegr,a gadael i'r cwbl gorddi tu mewn i mi.

22. Dw i wedi bod mor dwp ac afresymol.Dw i wedi ymddwyn fel anifail gwyllt o dy flaen di.

23. Ac eto, dw i'n dal gyda ti;rwyt ti'n gafael yn dynn ynof fi.

Salm 73