Salm 73:20-27 beibl.net 2015 (BNET)

20. Fel breuddwyd ar ôl i rywun ddeffro,byddi di'n deffro, O ARGLWYDD,a fyddan nhw'n ddim byd ond atgof.

21. Dw i wedi bod yn chwerw fel finegr,a gadael i'r cwbl gorddi tu mewn i mi.

22. Dw i wedi bod mor dwp ac afresymol.Dw i wedi ymddwyn fel anifail gwyllt o dy flaen di.

23. Ac eto, dw i'n dal gyda ti;rwyt ti'n gafael yn dynn ynof fi.

24. Ti sy'n dangos y ffordd ymlaen i mi,a byddi'n fy nerbyn ac yn fy anrhydeddu.

25. Pwy sydd gen i yn y nefoedd ond ti?A does gen i eisiau neb ond ti ar y ddaear chwaith.

26. Mae'r corff a'r meddwl yn pallu,ond mae Duw'n graig ddiogel i mi bob amser.

27. Bydd y rhai sy'n bell oddi wrthot ti yn cael eu difa;byddi'n dinistrio pawb sy'n anffyddlon i ti.

Salm 73