17. nes i mi fynd i mewn i deml Dduwa sylweddoli beth oedd tynged y rhai drwg!
18. Byddi'n eu gosod nhw mewn lleoedd llithrig;ac yn gwneud iddyn nhw syrthio i ddinistr.
19. Byddan nhw'n cael eu dinistrio mewn chwinciad!Byddan nhw'n cael eu hysgubo i ffwrdd gan ofn.
20. Fel breuddwyd ar ôl i rywun ddeffro,byddi di'n deffro, O ARGLWYDD,a fyddan nhw'n ddim byd ond atgof.
21. Dw i wedi bod yn chwerw fel finegr,a gadael i'r cwbl gorddi tu mewn i mi.
22. Dw i wedi bod mor dwp ac afresymol.Dw i wedi ymddwyn fel anifail gwyllt o dy flaen di.
23. Ac eto, dw i'n dal gyda ti;rwyt ti'n gafael yn dynn ynof fi.
24. Ti sy'n dangos y ffordd ymlaen i mi,a byddi'n fy nerbyn ac yn fy anrhydeddu.
25. Pwy sydd gen i yn y nefoedd ond ti?A does gen i eisiau neb ond ti ar y ddaear chwaith.
26. Mae'r corff a'r meddwl yn pallu,ond mae Duw'n graig ddiogel i mi bob amser.
27. Bydd y rhai sy'n bell oddi wrthot ti yn cael eu difa;byddi'n dinistrio pawb sy'n anffyddlon i ti.
28. Ond dw i'n gwybod mai cadw'n agos at Dduw sydd orau.Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn fy nghadw'n saff.Dw i'n mynd i ddweud wrth bawb am beth rwyt ti wedi ei wneud!