1. Ydy wir, mae Duw mor dda i Israel;i'r rhai sydd â chalon lân.
2. Ond bu bron i mi faglu;roeddwn i bron iawn a llithro.
3. Ro'n i'n genfigennus o'r rhai balch,wrth weld pobl ddrwg yn llwyddo.
4. Does dim byd yn eu rhwymo nhw;maen nhw'n iach yn gorfforol;
5. ddim yn cael eu hunain i helyntion fel pobl eraill;a ddim yn dioddef fel y gweddill ohonon ni.
6. Maen nhw'n gwisgo balchder fel cadwyn aur am eu gwddf,a chreulondeb ydy'r wisg amdanyn nhw.
7. Maen nhw'n llond eu croen,ac mor llawn ohonyn nhw eu hunain hefyd!
8. Maen nhw'n gwawdio ac yn siarad yn faleisus,ac mor hunanhyderus wrth fygwth gormesu.
9. Maen nhw'n siarad fel petai piau nhw'r nefoedd,ac yn strytian yn falch wrth drin y ddaear.
10. Ac mae pobl Dduw yn dilyn eu hesiampl,ac yn llyncu eu llwyddiant fel dŵr.
11. “Na, fydd Duw ddim yn gwybod!” medden nhw.“Ydy'r Goruchaf yn gwybod unrhyw beth?”
12. Edrychwch! Dyna sut rai ydy pobl ddrwg!Yn malio dim, ac yn casglu cyfoeth.
13. Mae'n rhaid fy mod i wedi cadw fy nghalon yn lân i ddim byd!Wedi bod mor ddiniwed wrth olchi fy nwylo!
14. Dw i wedi cael fy mhlagio'n ddi-baid,ac wedi dioddef rhyw gosb newydd bob bore.