Salm 72:7-15 beibl.net 2015 (BNET)

7. Gwna i gyfiawnder lwyddo yn ei ddyddiau,ac i heddwch gynyddu tra bo'r lleuad yn yr awyr.

8. Boed iddo deyrnasu o fôr i fôr,ac o'r Afon Ewffrates i ben draw'r byd!

9. Gwna i lwythau'r anialwch blygu o'i flaen,ac i'w elynion lyfu'r llwch.

10. Bydd brenhinoedd Tarshish a'r ynysoedd yn talu trethi iddo;brenhinoedd Sheba a Seba yn dod â rhoddion iddo.

11. Bydd y brenhinoedd i gyd yn plygu o'i flaen,a'r cenhedloedd i gyd yn ei wasanaethu.

12. Mae'n achub y rhai sy'n galw arno mewn angen,a'r tlawd sydd heb neb i'w helpu.

13. Mae'n gofalu am y gwan a'r anghenus,ac yn achub y tlodion.

14. Mae'n eu rhyddhau nhw o afael gormes a thrais;mae eu bywyd nhw'n werthfawr yn ei olwg.

15. Hir oes iddo!Boed iddo dderbyn aur o Sheba;Boed i bobl weddïo drosto'n ddi-baida dymuno bendith Duw arno bob amser.

Salm 72