Salm 72:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. O Dduw, rho'r gallu i'r brenin i farnu'n deg,a gwna i fab y brenin wneud beth sy'n iawn.

2. Helpa fe i farnu'r bobl yn ddiduedd,a thrin dy bobl anghenus yn iawn.

3. Boed i'r mynyddoedd gyhoeddi heddwcha'r bryniau gyfiawnder i'r bobl.

4. Bydd e'n amddiffyn achos pobl dlawd,yn achub pawb sydd mewn angenac yn cosbi'r rhai sy'n eu cam-drin.

5. Bydd pobl yn dy addoli tra bydd haul yn yr awyr,a'r lleuad yn goleuo, o un genhedlaeth i'r llall.

6. Bydd fel glaw mân yn disgyn ar dir ffrwythlon,neu gawodydd trwm yn dyfrhau y tir.

7. Gwna i gyfiawnder lwyddo yn ei ddyddiau,ac i heddwch gynyddu tra bo'r lleuad yn yr awyr.

8. Boed iddo deyrnasu o fôr i fôr,ac o'r Afon Ewffrates i ben draw'r byd!

9. Gwna i lwythau'r anialwch blygu o'i flaen,ac i'w elynion lyfu'r llwch.

10. Bydd brenhinoedd Tarshish a'r ynysoedd yn talu trethi iddo;brenhinoedd Sheba a Seba yn dod â rhoddion iddo.

11. Bydd y brenhinoedd i gyd yn plygu o'i flaen,a'r cenhedloedd i gyd yn ei wasanaethu.

12. Mae'n achub y rhai sy'n galw arno mewn angen,a'r tlawd sydd heb neb i'w helpu.

13. Mae'n gofalu am y gwan a'r anghenus,ac yn achub y tlodion.

14. Mae'n eu rhyddhau nhw o afael gormes a thrais;mae eu bywyd nhw'n werthfawr yn ei olwg.

Salm 72