10. Mae fy ngelynion yn siarad amdana i;a'r rhai sy'n gwylio fy mywyd yn cynllwynio.
11. “Mae Duw wedi ei adael,” medden nhw;“Ewch ar ei ôl a'i ddal;fydd neb yn dod i'w achub!”
12. O Dduw, paid mynd yn rhy bell!Fy Nuw, brysia i'm helpu i!
13. Gad i'r rhai sy'n fy erbyn i gael eu cywilyddio'n llwyr.Gad i'r rhai sydd am wneud niwed i migael eu gwisgo mewn gwarth a chywilydd!
14. Ond bydda i'n gobeithio bob amser,ac yn dal ati i dy foli di fwy a mwy.
15. Bydda i'n dweud am dy gyfiawnder.Bydda i'n sôn yn ddi-baid am y ffordd rwyt ti'n achub;Mae cymaint i'w ddweud!