Salm 70:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. O Dduw, achub fi!O ARGLWYDD, brysia i'm helpu!

2. Gwna i'r rhai sydd am fy lladd ideimlo embaras a chywilydd.Gwna i'r rhai sydd am wneud niwed i midroi yn ôl mewn cywilydd.

3. Gwna i'r rhai sy'n chwerthin ar fy mhendroi yn ôl mewn cywilydd.

4. Ond gwna i bawb sy'n dy geisio di ddathlu'n llawen!Gwna i'r rhai sy'n mwynhau dy weld ti'n achub ddweud,“Mae Duw mor fawr!”

5. Dw i mewn angen ac yn ddiamddiffyn;O Dduw, brysia ata i!Ti ydy'r un sy'n gallu fy helpu a'm hachub.O ARGLWYDD, paid oedi!

Salm 70