Salm 69:12-23 beibl.net 2015 (BNET)

12. Mae'r rhai sy'n eistedd wrth giât y ddinas yn siarad amdana i;a dw i'n destun cân i'r meddwon.

13. O ARGLWYDD, dw i'n gweddïo arnat tiac yn gofyn i ti ddangos ffafr ata i.O Dduw, am dy fod ti mor ffyddlon,ateb fi ac achub fi.

14. Tynna fi allan o'r mwd yma.Paid gadael i mi suddo!Achub fi rhag y bobl sy'n fy nghasáu i –achub fi o'r dŵr dwfn.

15. Paid gadael i'r llifogydd fy ysgubo i ffwrdd!Paid gadael i'r dyfnder fy llyncu.Paid gadael i geg y pwll gau arna i.

16. Ateb fi, ARGLWYDD;rwyt ti mor ffyddlon.Tro ata i, gan dy fod ti mor drugarog;

17. Paid troi dy gefn ar dy was –dw i mewn trafferthion,felly brysia! Ateb fi!

18. Tyrd yma! Gollwng fi'n rhydd!Gad i mi ddianc o afael y gelynion.

19. Ti'n gwybod fel dw i wedi cael fy sarhau,a'm bychanu a'm cywilyddio.Ti'n gweld y gelynion i gyd.

20. Mae'r sarhau wedi torri fy nghalon i.Dw i'n anobeithio.Dw i'n edrych am gydymdeimlad, ond yn cael dim;am rai i'm cysuro, ond does neb.

21. Yn lle hynny maen nhw'n rhoi gwenwyn yn fy mwyd,ac yn gwneud i mi yfed finegr i dorri fy syched.

22. Gad i'w bwrdd bwyd droi'n fagl iddyn nhw,ac yn drap i'w ffrindiau nhw.

23. Gad iddyn nhw golli eu golwg a mynd yn ddall.Gwna iddyn nhw grynu mewn ofn drwy'r adeg.

Salm 69