Salm 69:1-17 beibl.net 2015 (BNET)

1. Achub fi, O Dduw,mae'r dŵr i fyny at fy ngwddf.

2. Dw i'n suddo mewn cors ddofn,a does dim byd i mi sefyll arno.Dw i mewn dyfroedd dyfnion,ac yn cael fy ysgubo i ffwrdd gan y llifogydd.

3. Dw i wedi blino gweiddi am help;mae fy ngwddf yn sych;mae fy llygaid yn cauar ôl bod yn disgwyl yn obeithiol am Dduw.

4. Mae mwy o bobl yn fy nghasáu i,nag sydd o flew ar fy mhen.Mae cymaint o bobl gelwyddog yn fy erbyn i,ac eisiau fy nistrywio i.Sut alla i roi yn ôl rywbeth dw i heb ei ddwyn?

5. O Dduw, rwyt ti'n gwybod gymaint o ffŵl ydw i.Dydy'r pethau dw i'n euog o'u gwneudddim wedi eu cuddio oddi wrthot ti.

6. Paid gadael i'r rhai sy'n dy drystio di fod â chywilydd ohono i,Feistr, ARGLWYDD holl-bwerus.Paid gadael i'r rhai sy'n dy ddilyn di gael eu bychanu,O Dduw Israel.

7. Ti ydy'r rheswm pam dw i'n cael fy sarhau,a'm cywilyddio;

8. Dydy fy nheulu ddim eisiau fy nabod i;dw i fel rhywun estron i'm brodyr a'm chwiorydd.

9. Mae fy sêl dros dy dŷ di wedi fy meddiannu i;dw i'n cael fy sarhau gan y rhai sy'n dy sarhau di.

10. Hyd yn oed pan oeddwn i'n wylo ac ymprydioroeddwn i'n destun sbort.

11. Roedd pobl yn gwneud hwyl ar fy mhenpan oeddwn i'n gwisgo sachliain.

12. Mae'r rhai sy'n eistedd wrth giât y ddinas yn siarad amdana i;a dw i'n destun cân i'r meddwon.

13. O ARGLWYDD, dw i'n gweddïo arnat tiac yn gofyn i ti ddangos ffafr ata i.O Dduw, am dy fod ti mor ffyddlon,ateb fi ac achub fi.

14. Tynna fi allan o'r mwd yma.Paid gadael i mi suddo!Achub fi rhag y bobl sy'n fy nghasáu i –achub fi o'r dŵr dwfn.

15. Paid gadael i'r llifogydd fy ysgubo i ffwrdd!Paid gadael i'r dyfnder fy llyncu.Paid gadael i geg y pwll gau arna i.

16. Ateb fi, ARGLWYDD;rwyt ti mor ffyddlon.Tro ata i, gan dy fod ti mor drugarog;

17. Paid troi dy gefn ar dy was –dw i mewn trafferthion,felly brysia! Ateb fi!

Salm 69